Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (276) |
Datganiad y Llywydd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gwnaeth y Llywydd ddatganiad i fynegi cydymdeimlad diffuant Cynulliad Cenedlaethol Cymru â theuluoedd a ffrindiau’r rhai a fu farw neu a gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad terfysgol diweddar yn Nhiwnisia.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn y sylwadau cychwynnol a wnaeth y Prif Weinidog ar y digwddiadau trychinebus yn Nhiwnisia, a wnaiff ddatganiad llawn ar ei ddealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol?
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.38
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.35
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd: Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020 – y wybodaeth ddiweddaraf
Dechreuodd yr eitem am 14.48
4 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol – flwyddyn ers ei chyflwyno
Dechreuodd yr eitem am 15.32
5 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Donaldson
Dechreuodd yr eitem am 15.59
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Metro
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 mins)
Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
7 Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015
Dechreuodd yr eitem am 17.31
NDM5795 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Gorchmynion Amddiffyn a Chynorthwyo Oedolion (Swyddog Awdurdodedig) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015
Dechreuodd yr eitem am 17.31
NDM5796 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mehefin 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015
Dechreuodd yr eitem am 17.41
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5797 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mehefin 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
12 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y Cynnig.
10Dadl ar Adroddiad Gweinidogion Cymru ar gydymffurfiaeth â’r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
Dechreuodd yr eitem am 17.44
NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn gyffredinol.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5798 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydymffurfiaeth â'r ddyletswydd o dan adran 1 o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i'r cyhoedd yn gyffredinol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem ar 18.21
Daeth y cyfarfod i ben am 18.21
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2015